Wednesday, 1 October 2014

Dechrau blwyddyn Ysgol newydd Medi 2014 / Start of a new School year September 2014

Dyma ychydig o luniau o'r gweithgareddau mae dosbarthiadau'r Ysgol wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar.
DOSBARTH DERBYN
Dyma lun o yr holl blant sydd wedi dechrau'r ysgol yn llawn amser!

Here is a photo of all the children who have started school fulltime!








Them y Dosbarth Derbyn tymor yma yw Tedis. Mae pawb wedi cael y cyfle i ddod a thedi ber i mewn i'r ysgol fel ffrind bach i helpu nhw setlio i mewn i'w dosbarth newydd.
Mae'r plant wedi bod yn hynod brysur yn peintio lluniau o'u tedis.

Here are a few photos of the activities that the School's classes having being doing recently.
RECEPTION CLASS


The Reception Class' theme this term is Teddies. Every pupil had the opportunity to being a teddy bear into school as a friend to help them settle into their new class.
The children have been busy painting pictures of their teddies.










Cafodd y plant wahoddiad i bicnic gan ei ffrind Twm Tedi, felly roedd rhaid mynd ati i baratoi picnic a meddwl sut fathau o fwydydd oedd yn iach i'w bwyta.
The children had an invitation to a picnic from their friend Twm Tedi, they had to think about what kinds of foods they would have in their picnic and which foods were healthy to eat.









Wel wir! am fwydydd iach yn y bocsys bwyd!
Mwynhaodd bawb bicnic bendigedig yn y gasebo efo'u tedi bers!
I orffen y prynhawn mwynhaodd y plant stori Elenbenfelen a'r Tair Arth gan Miss Roberts.

Wow! what lovely healthy foods in the lunchboxes!
Everyone enjoyed a wonderful picnic in the gazebo with their teddy bears.
To finish off the lovely afternoon the children enjoyed the story of Goldilocks and the Three Bears from Miss Roberts.

Monday, 22 September 2014

Ymweliad Mrs Jones i Uganda / Mrs Jones's visit to Uganda

Fel yr ydym i gyd yn gwybod, ar ddiwedd tymor yr Haf bu Mrs Jones ar daith bythgofiadwy i Uganda gyda'r Eglwys. Hoffai Mrs Jones ddiolch am garedigrwydd pawb a gyfranodd tuag at ddarparu adnoddau gwerthfawr i'r ysgolion yno. Dywedodd Mrs Jones ei fod yn brofiad anhygoel na fu iddi byth ei anghofio. Isod gwelwch ychydig o luniau o'i thaith. Os hoffech weld mwy o luniau, ewch draw i dudalen we yr Eglwys.
As we all know, at the end of last year's Summer term, Mrs Jones went on a once in a lifetime journey to Uganda with the Church. Mrs Jones would like to take this opportunity to thank everybody for their generosity in contributing financially towards valuable resources to the schools out in Uganda. Mrs Jones said that it was an extraordinary experience, one she will never forget. Above you can see some of the picture taken on the journey. If you wish to see more, please visit the Church's website.

Clybiau / Clubs

Eleni, yn dilyn arolwg ymysg y disgyblion, rydym am newid trefn ein clybiau ar ol ysgol. Bydd clybiau yn newid yn dymhorol ac o ganlyniad gobeithiwn ddarparu mwy o amrywiaeth yma yn Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. Os yw eich disgybl yn dymuno ymuno a'r clybiau sydd ar gael, a fyddech cystal a dychwelyd y llythyr sydd wedi ei ddarparu i'ch disgybl mor fuan a phosib. Diolch.
This year, following hearing views of our pupils, we are going to change the way our after school clubs will run. This year clubs will change termly in order to try and provide more of a variety here at Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. If you child wishes to take part in any of the above clubs, could you please complete the form sent home with your child as soon as possible. Thank You.


Mae Clwb yr Urdd yn boblogaidd efo disgyblion yr Adran Iau.  Mae nhw yn cael cyfle i wneud gwaith celf o bob math  ac wythnos diwethaf cafodd pawb gyfle i wnio.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal bob Nos Fercher ar ol ysgol o 3.30 y.p. tan 4.30 y.p.  Dewch yn llu!











The URDD Club is popular with the Junior Department pupils. They have the opportunity to do all sorts of artwork and last week saw everyone sewing.

The club takes place every Wednesday after school from 3.30 pm until 4:30 p.m. Come along!

Dechrau Blwyddyn Newydd / Start of a New School Year

Hoffwn yma yn Ysgol y Parchedig Thomas Ellis, croesawu pawb yn ol yn dilyn gwyliau'r Haf. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau ac yn barod am flwyddyn addysgol arall. Mae gennym flwyddyn llawn bwrlwm ble bydd amrywiaeth eang o brofiadau ar gael i'r disgyblion, staff a ffrindiau'r ysgol. Os hoffech gysylltu gyda ni defnyddiwch y wybodaeth sydd ar gael ar ochr y dudalen hon.
We at Ysgol y Parchedig Thomas Ellis would like to welcome everybody back after the Summer holidays. We hope that you have had an enjoyable holiday and are ready for the new school year. We have a year full of exiting activities planned for pupils, staff and friends of the school. If you wish to contact us, please do so by using the contact details provided at the side of our webpage.

Thursday, 10 April 2014

Gorsafoedd y Groes / Stations of the Cross

Yn ein paratoadau am y Pasg, bu i ddisgyblion yr Adran Iau, fynychu Eglwys St Cybi i ddysgu am orsafoedd y groes. Yma mae'r disgyblion yn cerdded o amgylch yr Eglwys yn edrych ac yn dadansoddi lluniau sydd yn dangos Iesu yn mynd ar y groes hyd ei atgyfodiad. Cafwyd trafodaeth ddifir gyda Rev Jane Bailey ac bu i'r disgyblion ddysgu llawer.
 
 
 

 
 
 
 
 
 
 










As part of our Easter preperations, the Junior department visited St Cybi's church to take part in Stations of the Cross. During the visit, the pupils walk around the stations, discussing the pictures that show the story of Jesus dying on the cross and his ressurrection. The pupils had a very interesting discussion with Rev Jane Bailey which resulted in the pupils learning a great deal about this important time.

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Eleni penderfynom y byddem yn dathlu ein Cymreictod a diwrnod y llyfr ar yr un diwrnod. Cafom wledd o weithgareddau diddorol yn ystod y diwrnod. Yn y bore bum yn ffodus i dderbyn ymweliad gan awdur lleol o'r enw Anthony Bacon yn trafod ei stori. Bu pob dosbarth wedyn yn gweithio ar storiau enwog yma yng Nghymru megis Gelert. Rhodder y cyfle i bawb wisgo yn Gymreig am y diwrnod hefyd. Gweler yn y llun isod.
 
 
 

 
 
 
 
 
This year we decided to join our World book day activities with a celebration of Welsh traditions. The whole school  took part in many different activities during the day. In the morning we were fortunate to receive a visit from a local author named Anthony Bacon, who talked to us about his book. During the day, all of the classes discussed familiar Welsh tales in order to further develop their understanding of Welsh culture. We were all invited to wear clothes associated with Wales. See the above picture.

Cyngerdd Uganda / Uganda Conert

Y tymor yma cafwyd gwledd Gymreig yma yn Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. Bu i dros gant o bobl fynychu'r cyngerdd a drefnwyd yn ardderchog gan Bencampwraig y Gymraeg, Ms Myfanwy Jones. Cafwyd perfformaidau gwefreiddiol gan Cor Meibion Caergybi, Mr Raymond Jones, Miss Gwenllian Jones, Mr Stuart Pritchard ac heb anghofio Partion adrodd, canu a dawnsio gwerin yr Ysgol. Gallwch weld llunia o'r digwyddiad yn ein albwm lluniau ar y wefan ac hefyd gallwch weld clipiau o'r perfformiadau ar ein sianel You Tube. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfranod i'r noson gan iddo helpu i godi arian anghenrheidiol i'r daith fydd yn digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn i Uganda.
 
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 This term, we had a Welsh Feast here at Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. Over one hundred people attended this fabulous concert that was arranged by the School's Welsh Ambassador, Ms Myfanwy Jones. The audience enjoyed sensational performances by the Holyhead Male Voice Choir, Mr Raymond Jones, Misss Gwenllian Jones, Mr Stuart Pritchard and last and by no means least the school's recital, choir and Welsh folk dancing groups. You can see pictures of the event in our albums under our photos tab along with clips from the night uploaded on the school's new You Tube channel. May we take the opportunity to thank everybody that contributed to this fantastic evening as it helped raise much needed funds for the forthcoming journey to Uganda.

Dydd Mawrth Ynyd / Shrove Tuesday

Y tymor yma bu holl ddisgyblion yr Ysgol gymryd rhan mewn amryw i weithgaredd oedd yn hybu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd y cyfnod yma ym mywydau Cristnogion. Fel yr ydym yn gwybod, diwrnod olaf cyn Lent yw Dydd Mawrth Ynyd, ble defnyddir nwyddau fel blawd, llefrith a menyn gan i Gristnogion baratoi at y cyfnod i gofio'r aberth a waned Iesu yn yr anialwch yn ystod y cyfnod a adnabydder fel Lent. Bydd y cyfnod hyn yn dechrau y diwrnod wedyn a adnabydder fel Dydd Mercher y Lludw. Aeth yr Adran Iau i Eglwys St Cybi ar y diwrnod hynny i gymryd rhan mewn gwasanaeth eglwysig ble bu croes Ludw ei roi ar dalcen pawb. Bu blwyddyn 5 a 6 yn lwcus hefyd i dderbyn ymweliad gan y Parchedig Dr Kevin Ellis a ddaeth i goginio crempogau. Hoffwn  gymryd y cyfle i groesawu y Parchedig Dr Kevin Ellis i blwyf Caergybi yn dilyn symud yma o ardal Birmingham. Edrychwn ymlaen i fwy o ymweliadau ganddo yn y dyfodol.
 
 
 

 
 
 Dyma un o'n disgyblion yn brysur yn mesur cynhwysion i wneud crempog.
Here is one of our pupils busy measuring ingredients for our pancakes.
 
 
 On Shrove Tuesday, all of the pupils here at the school took part in many activities to celebrate this important time in the Christian calendar. As we all know, we use Shrove Tuesday as the start of the remembrance of Jesus's sacrifice in the dessert and the temptations faced. During Shrove Tuesday, Christians use up ingredients such as flour, eggs and milk in preparation for Lent. Lent will then proceed the next day, also known as Ash Wednesday. On Ash Wednesday, the junior department attended St Cybi's, in order to take part in their service and proceed to have a cross placed on their forehead in remembrance. During Shrove Tuesday, pupils from years 5 and 6 were lucky to enjoy a visit from Reverend Dr Kevin Ellis who came to cook pancakes with them. We would like to take the opportunity to welcome Reverend Dr Kevin Ellis to the Holyhead Parish following moving here from Birmingham. We look forward to many a visit in the future.

Thursday, 6 March 2014

Cyngerdd Uganda / Uganda Concert

 
Nos Wener yma (7/3/14) am 7yh, bydd Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis yn cynnal cyngerdd mawreddog i godi arian ar gyfer taith i Uganda. Yn ystod y noson bydd y gynulleidfa yn cael gwledd o berfformiadau gan gynnwys caneuon gan Cor Meibion Caergybi, Miss Gwenllian Jones, Mr Stuart Pritchard a Mr Raymond Jones heb son am ddawnsio gwerin a adrodd gan ddisgyblion yr ysgol. Os hoffech fynychu'r cyngerdd yma bydd modd archebu tocynau drwy ffonio'r ysgol, neu eu prynu ar y drws. Cost ticed fydd £5 a bydd yr holl elw yn mynd tuag at y daith. Gobeithiwn y gwelwn ni chwi Nos Wener.
 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
This Friday night (7/3/14) at 7p.m. Ysgol y Parchedig Thomas Ellis will hold a Concert to raise funds for a trip to Uganda. The concert will compromise of performances by Holyhead's Male Choir, Miss Gwenllian Joned, Mr Stuart Pritchard, Mr Raymond Jones and also multiple traditional folk dancing and recitals from some of the pupils. If you wish to attend this glorious evening you can book a ticket by phoning the school or pay at the door on arrival. The cost of a ticket is £5 and all proceeds will go towards the trip. We hope to see you Friday night.

Thursday, 30 January 2014

Ysgol 5* School

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Daily Post. Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod ein hysgol wedi derbyn gradd 5 seren (gwobr orau bosib).Os hoffech weld sut yr ydym yn cymharu gyda ysgolion eraill ein Dalgylch/Ynys Mon/Cymru ewch ar wefan y Daily Post.




Following the publication of primary school ratings in the Daily Post. We are extremely glad to announce that Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis has achieve a 5 star rating (the highest possible). If you wish to see how we compared to other schools in our Catchment/Anglesey/Wales visit the Daily Post website where a full breakdown is available.

Ceisiadau Mis Medi / September applications


Mae'r ffenestr cyflwyno ceisiadau ar gyfer mynediad i'n dosbarthiadau Meithrin a Derbyn ym Mis Medi 2013 (plant sydd yn 3 neu yn 4 ar Fedi 1af, 2014) wedi agor.  Mae ffurflenni ar gael nawr o'r ysgol, i'w ddychwelyd i'r awdurdod addysg.  A fyddech gystal รข rhannu'r wybodaeth yma gydag unrhyw berson sydd efo diddordeb yn ein hysgol.



 

 
 
 
The application window for our September 2013 Nursery and Reception classes (children who will be 3 and 4 on September 1st, 2014) has opened.  Forms are available from the school office, and are to be returned to the education authority.  Please share this information with anybody who has an interest in our school.  

Thursday, 19 December 2013

Newyddion / News


Mae gwaith ar hyn o bryd yn cael ei wneud ar gyfer sicrhau bod yr ysgol a'r safle yn ddiogel. Byddwn yn eich hysbysu yn fuan yn y flwyddyn newydd o drefniadau dechrau tymor. Dymunwn Nadolig Llawen a heddychlon i chwi gyd.


Work is being done to make the school and site safe. We will inform you early in the New Year regarding arrangements for the start of term. Wishing you a Merry and peaceful Christmas.

Monday, 16 December 2013

Sioe Pypedau Drama'r Geni / Birth of Jesus Puppet Show


Yr wythnos diwethaf bu i'r Eglwys dan arweiniad Kirsty Williams, drefnu sioe bypedau yn yr Ysgol ar gyfer rhoi stori'r geni i'r disgyblion mewn ffordd wahanol. Cafwyd bore diddorol yn eu cwmni.





Last week, the Church and Kirsty Williams organised for a puppet show to visit the school to tell the story of the Birth of Jesus in an imaginative way. A thoroughly enjoyable morning was had by all.

Cinio a Parti Nadolig / Christmas Dinner and Party

Dydd Iau cafodd yr ysgol gyfan fwynhau gwledd o ginio Nadolig wedi ei ddilyn gyda parti i'r holl ddisgyblion. Cafwyd prynhawn gwerth chweil a gafodd ei goroni gyda ymweliad gan Sion Corn. Diolch yn fawr i'r rhieni am ddarparu bwyd ar gyfer parti y prynhawn. Diolch hefyd i'r merchaid cinio (gweler isod) am lwyr ymroi yn y dathlu a paratoi cinio gwerth chweil i ni.


















Thursday, the whole school enjoyed a Christmas dinner followed by a Christmas Party. It was a thoroughly enjoyable afternoon, topped off by a visit from Father Christmas. A BIG thank you to all the parents who prepared food for the party in the afternoon. A big thank you must also go out to our dinner ladies (pictured above) for preparing such a fabulous meal and getting into the Christmas spirit as well.

Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts

Yr wythnos diwethaf bu'r babanod a'r adran iau yn brysur yn perfformio eu cyngherddau Nadolig. Bu'r babanod yn perfformio sioe o'r enw Neddy's Christmas a bu'r adran iau yn cynnal prynhawn o garolau a darlleniadau yn yr Eglwys.






















This last week the infants and junior departments have been busy performing their Christmas concerts. The infants performed a play called Neddy's Christmas, whilst the Juniors conducted a Christmas Carol Service at St Cybi's Church.

Friday, 6 December 2013

Ffair Nadolig / Christmas Fair

Yr wythnos yma cafom ffair nadolig yma yn Ysgol Thomas Ellis. Roedd yn noson wych gyda amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau. Uchafbwynt y noson oedd ymweliad Sion Corn, ble bu'r disgyblion yn ei weld yn ei groto. Hoffwn gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i bawb am gefnogi'r noson a rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi codi oddeutu £1000 ac mae'r arian yn parhau i'n cyrraedd.



 
 
This week at Ysgol Thomas Ellis we had our Christmas Fair. It was a brilliant night with a variety of stalls and activities. The highlight of the night was the visit from Father Christmas, where the children went to visit him in his grotto. We would like to take the opportunity to thank everybody for their support and we are glad to announce that we have raised around £1000 and the money is still coming in.

Castell y Ddraig / Dragon's Castle

Heddiw bu cwmni Castel y Ddraig o asiantaeth safonau bwyd atom yn siarad am ddiogelwch bwyd. Cafwyd diwrnod i'w gofio, o'r sioe ar ddechrau'r bore, i'r gwersi yn y dosbarthiadau. Roedd y disgyblion i gyd yn parhau i siarad am y 4C yn dilyn yr ymweliad. Diolch yn fawr iddynt am ddarparu diwrnod o'r fath.




















Today we had a wonderful visit off Dragon's Castle from the Food Standards agency. We had a day to remember from the show at the beginning of the day through to the lessons provided by them. The pupils continued to talk about the 4C after they had left. A big thank you to them for preparing such an excellent day.

Ymweliad yr Esgob / Visit by the Bishop

Yr wythnos diwethaf daeth yr Esgob Andrew i ymweld a'r ysgol. Rhoddodd sgwrs i ni am sut mae'n anodd aberthu pethau sydd yn daer i ni. Fel y gwelir yn y lluniau mae tim pel droed Lerpwl yn agos iawn i galon yr Esgob wrth iddo wisgo un o'r disgyblion fel cefnogwr.












Last week Bishop Andrew visited the school. He gave a talk on how it is difficult to sacrifice things that are close to our hearts. As you can see from the photographs, Liverpool FC is very close to Bishop Andrew's heart as he dresses up one of the pupils as a supporter.






Diwrnod y Cofio / Armistice Day

Heddiw bum fel ysgol yn cofio'r holl filwyr sydd wedi bod yn ymladd ar gyfer ein heddwch. Bu i flynyddoedd 5 a 6 arwain y gwasanaeth a bu rhai disgyblion yn creu cylchoedd pabi eu hunain. Cafwyd llawer o wybodaeth am Cpt. John Fox Russell oedd yn fachgen o'r ardal.















 







Today we had a special service in remembrance of Armistice Day. Years 5 and 6 led the service and some of the pupils had created their own poppy wreaths to mark the occasion. Along with this we all had information about the local hero Cpt John Fox Russell.