Thursday, 2 October 2014

Diwrnod Ieithoedd wropeaidd / European day of Languages

Bon Matin!  Buenos Dias!  Guten Morgan!  oedd y geiriau roedd pawb yn croesawu eu gilydd hefo ar fore dydd Mercher 24ain o Fedi.  Roedd pawb yn dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yn yr ysgol.

Roedd llawer iawn o blant wedi gwisgo mewn dillad gwahanol am y diwrnod - un neu ddwy o senioritas bach del, rahi mewn cit pel-droed o wledydd Ewrop ac eraill wedi peintio gwynebau hefo baneri o wahanol wledydd.






 Bon Matin! Buenos Dias! Guten Morgan! were words everyone was using to greet one another with on the morning of Wednesday 24th September. Everyone was celebrating the European Day of Languages ​​in school. 


There were lots of children dressed in different clothes for the day - one or two pretty little senioritas, others wore football kits of European countries and others had painted faces with flags of different countries.

 
Dyma lun o Dosbarth Twr (Bl. 3 a 4) yn blasu bob math o fwydydd o wahanol wledydd yn Ewrop.

Here is a picture of the Dosbarth Twr (Years. 3 and 4) tasting all kinds of foods from different countries in Europe.



Gan fod y Dosbarth Derbyn yn edrych ar tedi bers tymor yma, daeth ffrind bach Twm Tedi, sef Barnaby, i'w weld yr holl ffordd o Ffrainc!

Cafodd pawb gyfle i wneud bob math o weithgareddau - adeiladu'r Twr Eifl, peintio baner Ffrainc ac wrth gwrs blasu bob math o fwydydd Ffrengig!












As the Reception class is looking at teddy bears this term, Twm Tedi's friend, Barnaby, came to visit all the way from France!


Everyone had a chance to do all kinds of activities - building the Eiffel Tower, paint the French flag and of course  tasting all kinds of French foods!








































































Gweithgareddau yn Bl. 5 a 6 / Activities in Years 5 & 6

Yn eu gwersi Addysg Grefyddol mae disgyblion yn Dosbarth Peibio, sef Bl.5 a 6, wedi bod yn greadigol yn creu tabledi clai gyda ysgrifen Hebraeg.








In their Religious Education lessons pupils from Dosbarth Peibio, Years 5 and 6, have been creative in creating clay tablets with Hebrew writing.


Mae nhw hefyd wedi bod yn trafod llawer iawn o bynciau difyr.  Un o'r trafodaethau oedd am yrru Laika y ci i'r gofod yn y 1950'au.  Cafodd pawb gyfle i ddweud eu barn - os oeddynt yn cytuno neu anghytuno!



They have also been discussing a great deal of entertaining topics. One of the discussions was about sending Laika the dog into space in the 1950's. Everyone had a chance to have their say - if they agreed or disagreed!



Hoci i'r Adran Iau / Hockey for the Juniors

Braf iawn yw cael dysgu gwneud rhywbeth newydd  - a dyna beth mae disgyblion yn yr Adran Iau yn cael gwneud tymor yma!  Mae dysgu chwarae hoci wedi bod yn bleserus iawn iddynt. 





It's great to learn something new - and that's what the Junior pupils have done this term! Learning to play hockey has been very enjoyable for them.

Gofalu am yr amgylchedd / Caring for the environment

Yn ystod wythnosau cyntaf y tymor yma aeth disgyblion Bl. 1 a 2 i ardal yn ymyl yr Orsaf Dan, yn y dref, i gasglu sbwriel. Mwynhaodd y plant y sialens o lenwi y bagiau du efo sbwriel o bob math yn fawr iawn ac roedd ambell un yn fwy na parod i gario 'mlaen i godi mwy o sbwriel pan ddaeth ein hamser i ben!
During the first few weeks of term pupils from Years 1 and 2 went to collect litter from an area near the Fire Station near to our school. The children enjoyed the challenge of filling the black bin bags a great deal and one or two would have carried on all day!!

Gweithgareddau yn Blwyddyn 1 a 2 / Activities in Years 1 and 2

Them y tymor yma yn Blwyddyn 1 a 2, sef Dosbarth Newry, yw Y Gofod. Mae'r disgyblion wedi mwynhau gweithgareddau yn seiliedig ar y llyfr "Beth Nesaf."
Maent wedi cael cyfle i chwarae rol yn y roced yn y dosbarth! Maent wedi bod yn creu clai eu hunain ac yna mowldio'r clai i wneud rocedi, llongofod, planedau ac ambell i ddyn bach gwyrdd hefyd!



The theme this term in Year 1 and 2, namely Dosbarth Newry, is Space. The pupils have enjoyed many activities based on the book "Whatever Next."
They had an opportunity to roleplay in the rocket in class! They have been creating their own clay and then have shaped the clay to make rockets, spacecraft, planets and some little green men too!

Mae'r plant wedi bod yn greadigol yn ardal Ein Byd Bach ac wedi defnyddio tywod a chregyn i greu gwyneb y lleuad.
Mi ddaru ambell un greu rocedi a llongofod gan ddefnyddio eitemau wedi eu ail-gylchu i'w rhoi yn yr ardal hefyd. The children have been creative in our Small World area and have used sand and shells to create the surface of the moon.
Some created a few rockets and spacecraft using recycled items to go in that area.

Wednesday, 1 October 2014

Dechrau blwyddyn Ysgol newydd Medi 2014 / Start of a new School year September 2014

Dyma ychydig o luniau o'r gweithgareddau mae dosbarthiadau'r Ysgol wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar.
DOSBARTH DERBYN
Dyma lun o yr holl blant sydd wedi dechrau'r ysgol yn llawn amser!

Here is a photo of all the children who have started school fulltime!








Them y Dosbarth Derbyn tymor yma yw Tedis. Mae pawb wedi cael y cyfle i ddod a thedi ber i mewn i'r ysgol fel ffrind bach i helpu nhw setlio i mewn i'w dosbarth newydd.
Mae'r plant wedi bod yn hynod brysur yn peintio lluniau o'u tedis.

Here are a few photos of the activities that the School's classes having being doing recently.
RECEPTION CLASS


The Reception Class' theme this term is Teddies. Every pupil had the opportunity to being a teddy bear into school as a friend to help them settle into their new class.
The children have been busy painting pictures of their teddies.










Cafodd y plant wahoddiad i bicnic gan ei ffrind Twm Tedi, felly roedd rhaid mynd ati i baratoi picnic a meddwl sut fathau o fwydydd oedd yn iach i'w bwyta.
The children had an invitation to a picnic from their friend Twm Tedi, they had to think about what kinds of foods they would have in their picnic and which foods were healthy to eat.









Wel wir! am fwydydd iach yn y bocsys bwyd!
Mwynhaodd bawb bicnic bendigedig yn y gasebo efo'u tedi bers!
I orffen y prynhawn mwynhaodd y plant stori Elenbenfelen a'r Tair Arth gan Miss Roberts.

Wow! what lovely healthy foods in the lunchboxes!
Everyone enjoyed a wonderful picnic in the gazebo with their teddy bears.
To finish off the lovely afternoon the children enjoyed the story of Goldilocks and the Three Bears from Miss Roberts.